Mae angen adborth arnom gennych chi!
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 13:09
A hoffech chi rannu eich profiadau o ganolfan asesu neu gyflenwr DSA-QAG gyda myfyrwyr eraill?
A hoffech chi helpu i ganolfannau asesu a chyflenwyr DSA-QAG barhau i ddarparu gwasanaeth gwych i fyfyrwyr?
Yna mae angen adborth arnom gennych chi.
Pam gadael adborth?
Mae adborth gennych yn bwysig i ganolfannau asesu a chyflenwyr DSA-QAG a gymeradwyir er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal safon uchel o wasanaeth i fyfyrwyr. Mae’ch hadborth yn gymorth i fyfyrwyr eraill wrth iddynt ddewis canolfan asesu. Mae eich profiad gyda’r cyflenwr a awdurdodir gan eich corff cyllido hefyd yn bwysig, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda sut fath o wasanaeth a gawsoch wrth drefnu i dderbyn eich hoffer a / neu hyfforddiant.
I roi adborth am y ganolfan asesu yr oeddech yn ymweld â hi, cliciwch yma os gwelwch yn dda a rhowch eu cod post i mewn i ddod o hyd i’r ganolfan asesu perthnasol.
I adael adborth i’r cyflenwr, cliciwch yma os gwelwch yn dda a rhowch enw cyflenwr eich hoffer i mewn.
Sut i adael adborth
Unwaith i chi ddewis y ganolfan asesu neu gyflenwr yr hoffech roi adborth arnynt, dewiswch y tab ‘adolygiadau’ i adael eich sylwadau.
Dylech chi hefyd roi sgôr allan o 5 i’r ganolfan asesu neu gyflenwr gydag 1 yn isel a 5 yn uchel. Byddwch yn gweld y bydd hyn yn rhoi gradd ser i’r ganolfan asesu neu gyflenwr er mwyn helpu myfyrwyr wrth iddynt benerfynu pa ganolfan asesu i ymweld â hi ar gyfer eu hasesiad a pha gyflenwr i gysylltu â nhw i drefnu cael eu hoffer a / neu hyfforddiant.
Byddai hyn dim ond yn cymryd ychydig o funudau a byddai’n helpu myfyrwyr DSA eraill yn fawr.
Diolch i chi am ein helpu.