Beth yw DSAs (Lwfansau Myfyrwyr Anabl)?
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 14:10
Beth yw DSAs (Lwfansau Myfyrwyr Anabl)?
Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) – Dyma’r cyllid y gellir ymgeisio amdano i roi’r cymorth ychwanegol sydd angen ar fyfyrwyr anabl tra eu bod yn astudio. Mae’n bosib y bydd angen i chi ymgeisio ar gyfer DSA os oes gennych:
•Anabledd,
•Anhawster dysgu penodol – fel dyslecsia,
•Cyflwr iechyd parhaus,
•Cyflwr iechyd meddwl.
Os ydych yn ansicr am eich hawl i DSA, cysylltwch os gwelwch yn dda â gwasanaethau anabledd eich prifysgol, am gyngor.
Caiff DSAs eu dyfarnu ar ffurf grant, nad yw’n ad-daladwy, a gellir ymgeisio amdanynt ar eu pen eu hunain, neu fel cyllid ychwanegol ar ben y cyllid myfyrwyr safonol sydd gennych hawl iddo. Yn dibynnu ar eich hanghenion unigol, gall DSA eich helpu i dalu am eitemau fel:
•Offer, h.y. caledwedd a meddalwedd cyfrifiadur,
•Costau teithio tuag at yr arian ychwanegol sydd angen i chi dalu o ganlyniad i’ch anabledd,
•Llyfrau a deunydd ysgrifennu, h.y. llyfrau Braille neu brint bras,
•Cymorth nad yw’n feddygol, h.y. rhywun i gymryd nodiadau i’ch helpu yn ystod darlithoedd.
Bydd y cymorth union rydych yn derbyn yn cael ei benderfynu trwy ‘asesiad anghenion’. Mae’r aseswr yn gwneud arhymhellion i’ch corff cyllido ac maen nhw wedyn yn cymeradwyo’r cymorth.
Gwyodaeth a chanllawiau corff cyllido
Gweinyddir DSAs gan nifer o gyrff cyllido gwahanol. I ddarganfod mwy am DSAs a sut i ymgeisio cliciwch yma os gwelwch yn dda.
PWYSIG
I sicrhau bod eich DSA yn ei le cyn gynted â phosib, dilynwch y camau cyngor hyn:
•Ymgeiswch mor gynnar â phosib – yn y rhan fwyaf o achosion nid oes angen i chi gael lle wedi’i gadarnhau yn y brifysgol neu’r coleg cyn ymgeisio.
•Unwaith i chi dderbyn cadarnhad eich bod yn gymwys, trefnwch asesiad anghenion cyn gynted â phosib – i ddod o hyd i ganolfan asesu cliciwch yma.
•Pan ydych yn mynychu eich cyfweliad asesu anghenion, yn ogystal â’r dystiolaeth feddygol a ddychwelwyd i’r ganolfan, dylech chi roi cymaint o wybodaeth â phosib i’r aseswr. Efallai hoffech fynd ag unrhyw waith papur perthnasol arall gyda chi er mwyn helpu’r aseswr i benderfynu beth fyddai’n eich helpu
•Unwaith i chi dderbyn eich hysbysiad dilysrwydd gan eich corff cyllido, dylech chi gysylltu â’r cyflenwr awdurdodedig er mwyn cael y cymorth a’r offer y cytunwyd arnynt – i ddod o hyd i’r cyflenwr, cliciwch yma.