Cwestiynau Cyffredin
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 14:25
1. Beth yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs)?
2. Faint o amser mae’n cymryd?
3. Pryd y dylwn i wneud cais am DSAs?
4. Oes angen i mi anfon dogfennau gwreiddiol?
5. Oes angen i mi dalu fy DSAs yn ôl?
6. Beth yw Llythyr Hawliau?
7. Oes rhaid i mi dalu am unrhyw beth?
8. Sut ydw i’n gwneud cais am daliad costau teithio?
9. A gaf i hawlio arian yn ôl ar gyfer offer ‘rydw i wedi prynu fy hun?
10. Rydw i wedi penderfynu gadael / newid fy nghwrs, pwy sydd angen i mi gysylltu â nhw a sut ydw i’n gwneud hyn?
11. Beth yw Asesiad Diagnostig?
12. Beth yw’r broses Asesu?
13. Sut ydw i’n dod o hyd i’m cyflenwr?
14. Derbyn Offer?
15. Ydw i’n cael cadw’r offer ar ôl cwblhau fy nghwrs?
16. Sut ydw i’n gwneud cwyn?
17. Sut ydw i’n dod o hyd i’m swyddog anableddau?
Beth yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs)?
Am fanylion llawn ar beth yw DSAs, gan gynnwys gwybodaeth ar beth fyddwch yn derbyn, cymhwyster a sut i wneud cais, cliciwch y ddolen perthnasol isod os gwelwch yn dda:
Trosolwg - https://www.gov.uk/disabled-students-allowances-dsas
Beth fyddwch yn derbyn – https://www.gov.uk/disabled-students-allowances-dsas/what-youll-get
Cymhwyster a’r dystiolaeth sydd angen – https://www.gov.uk/disabled-students-allowances-dsas/eligibility
Sut i wneud cais – https://www.gov.uk/disabled-students-allowances-dsas/how-to-claim
Faint o amser mae’n cymryd?
Unwaith i chi wneud cais a dychwelyd y dystiolaeth i gyd sydd angen ar eich corff cyllido gallu y broses gymryd tua 14 wythnos.
Pyrd y dylaf wneud cais ar gyfer DSAs?
Gan ei fod yn cymryd bron i 14 wythnos, dylwch wneud cais ar gyfer DSAa cyn gynted â phosib – peidiwch ag aros nes i chi ddechrau astudio.
Oes angen i mi anfon dogfennau gwreiddiol?
Dylech chi wirio hyn gyda’ch corff cyllido, ond mae’r mwyafrif yn hapus i dderbyn llungopïau clir. .
Oes angen i mi dalu fy DSAs yn ôl?
Grant yw’ch DSAs felly nid oes angen i chi eu talu yn ôl. Fodd bynnag, os ydych yn gadael eich cwrs cyn y diwedd, dylech chi gadarnhau hyn gyda’ch corff cyllido. Am wybodaeth ar gyrff cyllido, cliciwch yma.
Beth yw Llythyr Hawliau?
Dyma’r llythyr cymeradwyo y mae’ch corff cyllido yn ei anfon. Mae’n dweud wrthych pa gymorth sydd wedi ei gymeradwyo a sut i drefnu’ch cymorth.
Oes rhaid i mi dalu am unrhyw beth?
Mae’n bosib y bydd angen i chi dalu am unrhyw brofion neu lythyron sy’n profi eich bod yn gymwys ar gyfer DSA. Fodd bynnag, gallai fod yn bosib i gael cymorth ariannol trwy eich prifysgol neu goleg. Dylech siarad â’ch swyddog anabledd am hyn.
Bydd angen i chi dalu am: ddefnyddiau traul; costau teithio ychwanegol; llungopïo; llyrau testyn ychwanegol nad ydynt yn graidd; a chostau rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch yn cael hawlio’r costau hyn yn ôl drwy’r lwfans cyffredinol, yn ôl argymhellion eich hadroddiad anghenion.
Sut ydw i’n gwneud cais am daliad costau teithio?
Os ydy costau teithio wedi eu hargymell yn eich hadroddiad asesu anghenion, bydd angen i chi wneud cais am ad-daliad trwy’ch corff cyllido. Am wybodaeth ar gyrff cyllido, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
A gaf i hawlio arian yn ôl ar gyfer offer ‘rydw i wedi prynu fy hun?
Efallai y cewch hawlio arian yn ôl ar gyfer offer a brynwyd cyn eich hasesiad. Dylech chi gysylltu â’ch canolfan asesu am hyn.
Rydw i wedi penderfynu gadael / newid fy nghwrs, pwy sydd angen i mi gysylltu â nhw a sut ydw i’n gwneud hyn?
Dylwch chi hysbysu eich corff cyllido cyn gynted â phosib. Am wybodaeth ar gyrff cyllido cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Beth yw Asesiad Diagnostig?
Defnyddir Asesiad Diagnostig i asesu presenoldeb Anawsterau Dysgu Penodol. Athrawon arbenigol a seicolegwyr sydd â thystysgrif ymarfer presennol mewn Asesu Anawsterau Dysgu Penodol gan gymdeithas broffesiynol er enghraifft BPS neu Patoss.
Beth yw’r broses asesu?
Am fanylion ar y broses asesu, cliciwch yma os gwelwch yn dda
Sut ydw i’n dod o hyd i’m cyflenwr?
Am restr gyflawn o gyflenwyr cofrestredig DSA-QAG cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Derbyn Offer
Am fanylion ar sut i drefnu derbyn eich hoffer, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Ydw i’n cael cadw’r offer ar ôl cwblhau fy nghwrs?
Ydych, ar yr amod nad ydych wedi gadael y brifysgol yn gynnar – os ydych yn gadael yn gynnar, gwiriwch os gwelwch yn dda gyda’ch corff cyllido.
Sut ydw i’n gwneud cwyn?
Cewch wneud cwyn drwy edych ar ein hadran ar gwynion am fanylion o’r broses i’w dilyn – cliciwch yma
Sut ydw i’n dod o hyd i’m swyddog anableddau?
Cewch ddod o hyd i’ch swyddog anableddau drwy defnyddio’n chwiliadur swyddogion anableddau – cliciwch yma