Gwneud Cwyn

O bryd i’w gilydd gallwn deimlo’n anfodlon gyda’r gwasanaeth neu nwyddau rydym wedi eu derbyn. Mae’n well bob amser i geisio datrys unrhyw faterion cyn iddynt droi’n gwŷn. Os oes angen i chi wneud cwyn, dyma’r broses i’w dilyn:

A ydych chi wedi cysylltu â’r ganolfan asesu neu gyflenwr? Os na, chwiliwch am y dolenni gyda manylion cyswllt, i ddod o hyd i’ch canolfan asesu cliciwch yma os gwelwch yn dda, i ddod o hyd i’ch cyflenwr cliciwch yma os gwelwch yn dda.

A ydych wedi cael ymateb ganddynt? Os na, arhoswch amdanynt i gysylltu â chi os gwelwch yn dda. Cewch ddod o hyd i’w hamserlenni disgwyliedig o fewn adran ‘Cwynion’ eu gwefan.

Os ydych wedi derbyn ymateb ac yn anfodlon â’r ymateb, a ydych wedi dilyn proses symud ymlaen llawn y ganolfan asesu neu gyflenwr? Os nad ydych, yna symudwch ymlaen i gam nesaf y broses hon os gwelwch yn dda. Cewch fanylion o broses hon o fewn Polisi Cwynion y sefydliadau sydd ar gael ar eu gwefan.

Os ydych wedi dilyn y polisi symud ymlaen yn llawn ac yn dal i fod yn anfodlon â’r canlyniad, yna cysylltwch os gwelwch yn dda â’r DSA-QAG yn ysgrifenedig ar administration@dsa-qag.org.uk gan amlinellu’r rheswm dros eich cwyn, ac anfon unrhyw ddogfennau perthnasol. Byddwn yn cadarnhau derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith a’n nod yw archwilio ac ymateb yn llawn i chi o fewn 20 diwrnod o’i derbyn. I weld Dogfen Gyfundrefn a Strategaeth Gwynion y DSA-QAG yn llawn, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Dolenni Defnyddiol

Student Loans Company: http://www.slc.co.uk/media/426356/ppc008_june_2012_online.pdf
Open University:http://www.open.ac.uk/studentservices/complaints/complaints.php
NHS: http://www.nhsbsa.nhs.uk/1726.aspx
Public Service Ombudsman for Wales: http://www.ombudsman-wales.org.uk/