Trefnu eich Hasesiad Anghenion

WelshDiagram3

Bydd eich corff cyllido wedi eich cynghori os ydych yn gymwys ar gyfer cyllido ar gyfer DSAs. Bydd hyn fel arfer yn llythyr / ebost sy’n eich cynghori eich bod yn gymwys ar gyfer y Lwfansau Myfyrwyr Anabl a fydd yn eich cyfarwyddo i drefnu asesiad anghenion. I drefnu asesiad anghenion, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Byddwch yn gweld y wybodaeth ganlynol ar gyfer pob canolfan asesu:

•Enw’r ganolfan

•Amserau agor

•Cyfeiriad

•Manylion cyswllt

•Pa mor agos yw’r ganolfan i’ch cod post

•Amserau aros ar gyfer apwyntiad

Unwaith i chi benderfynu pa ganolfan yr hoffech ei mynychu, dylech gysylltu â’r ganolfan i drefnu apwyntiad sy’n gyfleus i chi. Bydd pob canolfan yn gallu eich cynghori am amser eu hapwyntiad nesaf. Unwaith i chi gytuno ar amser cyfleus, byddwch yn derbyn cadarnhad o ddyddiad ac amser eich hasesiad drwy ebost neu drwy’r post.

Nodwch os gwelwch yn dda, mae’n syniad da i ffonio mwy nag un canolfan i weld pwy sy’n gallu cynnig yr apwyntiad cyflymach.

Cewch fynychu unrhyw ganolfan o’ch dewis. Fodd bynnag, mae’n hanfodol eich bod yn canslo unrhyw apwyntiad rydych wedi ei wneud, os ydych yn llwyddo cael apwyntiad cynharach.

Bydd cadarnhad eich hapwyntiad gan y ganolfan yn eich cynghori am y wybodaeth ganlynol -

•Dyddiad ac amser yr apwyntiad

•Cyfeiriad a chyfarwyddiadau i’r ganolfan

•Manylion cyswllt rhag ofn bod angen galw eto neu newid amser eich hapwyntiad

•Bydd angen i chi anfon copïau o’ch gwybodaeth feddygol at y ganolfan a / neu ffurflen cyn-asesu – mae hyn er mwyn helpu’r aseswr gael cymaint â phosib o wybodaeth amdanoch cyn i chi fynychu’r asesiad anghenion. Os caiff yr aseswr y wybodaeth hon i gyd amdanoch, bydd eich profiad yn well. Mae’r aseswr yna i sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth gorau posib.

•Bydd angen i chi hefyd ddarparu copi o’r llythyr gan y corff cyllido sy’n cytuno i chi gael asesiad anghenion.

Nodwch: Anfonwch y dogfenau angenrheidiol at y ganolfan mor gynnar â phosib os gwelwch yn dda.