Cymeradwyaeth gan y Corff Cyllido
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 14:09
Yn ogystal ag anfon yr adroddiad atoch chi, bydd y ganolfan asesu yn anfon copi o’r adroddiad asesu anghenion at eich corff cyllido, a gyda’ch caniatâd, at swyddog anabledd eich prifysgol / coleg. Bydd y corff cyllido yn adolygu’r adroddiad ac yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan yr aseswr yn erbyn eu polisi a’u rheoliadau. Ar ôl adolygu’r adroddiad asesu anghenion byddent yn eich cynghori ar beth sydd wedi’i gymeradwyo. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanfon atoch mewn llythyr ac yn dweud yn union pa offer a chymorth y maent wedi eu cymeradwyo ar eich cyfer. Ceir enghraifft o lythyr yma:
Example DSA2 Award Letter 2012.pdf
Yn y llythyr hwn byddwch hefyd yn cael manylion cyswllt unigol pob un o’r darparwyr ar gyfer unrhyw offer neu hyfforddiant sydd wedi eu cymeradwyo ar eich cyfer.
PWYSIG
Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu derbyn yr offer neu drefnu amserau’r hyfforddiant cyn gynted â phosib. Os oes rhywbeth o fewn eich hadroddiad asesu anghenion sydd heb ei gymeradwyo ond sydd angen arnoch, yna dylech chi gysylltu â’ch canolfan asesu neu’r corff cyllido yn syth.
Cysylltwch os gwelwch yn dda â’r cyflenwr awdurdodedig er mwyn trefnu i dderbyn eich hoffer, hyfforddiant a gwasanaethau.