Trefnu derbyn eich Hoffer
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 12:46
Unwaith i chi gael y llythyr gan eich corff cyllido yn eich hysbysu am unrhyw gymorth, offer a / neu hyfforddiant sydd wedi eu cymeradwyo ar eich cyfer, mae’n bwysig i chi wneud trefniadau ar gyfer y rhain cyn gynted â phosib.
Dilynwch y manylion ar lythyr y corff cyllido a chysylltwch â phob sefydliad i ddweud wrthynt eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth gan eich corff cyllido. Bydd y sefydliadau hyn yn gallu rhoi cymorth i chi drwy’r broses.
Nodwch os gwelwch yn dda y dylech chi dderbyn offer o fewn 10 diwrnod o alw gyda chadarnhad o gymeradwyaeth eich corff cyllido.
Hefyd, byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda y bydd llawer o fyfyrwyr yn trefnu hyn ar yr un pryd â chi ac efallai y byddwch yn profi rhywfaint o oedi. Neu mae’n bosib na fydd y dyddiad / amser hyfforddi neu derbyn offer ar gael os ydych yn aros tan y munud olaf.
Cliciwch yma ar gyfer rhestr gyflawn o gyflenwyr offer.
Offer Technoleg Gynorthwyol
Unwaith i chi gysylltu a’ch cyflenwr, byddent yn trefnu cyflenwi, derbyn, gosod i fyny a chymorth dod yn gyfarwydd â’r offer.
Mae dod yn gyfarwydd â’r offer yn golygu y byddwch yn cael canllawiau sylfaenol ar sut mae’r offer yn gweithio. Os ydych wedi derbyn cyfrifiadur, meddalwedd neu offer cymhleth arall, efallai bydd hyfforddiant pellach wedi’i gymeradwyo ar eich cyfer. Trefnir yr hyfforddiant hwn fel arfer ar gyfer dyddiad sy’n fuan ar ôl i chi dderbyn yr offer. Bydd yr hyfforddiant naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar beth a ystyriwyd yn addas i chi yn yr adroddiad asesu anghenion.
Bydd eich cyflenwr yn eich cefnogi drwy’r broses a bydd cymorth parhaus ar ôl i chi dderbyn yr offer hefyd. Pan fod yr offer yn cyrraedd bydd y peiriannwr yn eich cynghori am fanylion y ddesg gymorth technegol rhagofn i chi wynebu problem gyda’r offer o gwbl.