Esboniad Pen i Ben o’r Broses DSA
- Diweddarwyd Diwethaf ar Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015 13:20
Nodwch os gwelwch yn dda: Mae rhai gwahaniaethau yn y broses yn dibynnu ar eich corff cyllido. Am drosolwg o hyn, cyfeiriwch at y ddolen i’ch corff cyllido isod.
Pryd ydw i’n cael ymgeisio ar gyfer cyllid?
Gall y broses hon gymryd hyd at dri mis o ymgeisio ar gyfer cyllid i dderbyn yr offer a’r gwasanaethau priodol.
Dylech ymgeisio mor gynnar â phosib ac nid oes angen aros nes bod eich cwrs wedi’i gadarnhau. Cewch ymgeisio ar unrhyw bwynt yn ystod eich cwrs, hyd yn oed os oes cyfnod byr o amser ar ôl yn unig.
Am wybodaeth ar gyrff cyllido cliciwch yma.
Clywed yn ôl gan eich Corff Cyllido
Ar ôl i’ch corff cyllido dderbyn eich cais a’ch tystiolaeth byddent yn cynnal adolygiad a byddwch yn cael eich hysbysebu am y canlynol -
- Rydych wedi cael eich cymeradwyo ac mae angen i chi drefnu a mynychu apwyntiad Asesu Anghenion
- Mae angen i chi anfon rhagor o wybodaeth i gefnogi’ch cais
- Nid ydych yn gymwys ar gyfer cyllido
- Rydych wedi cael eich cymeradwyo
Unwaith i chi dderbyn eich llythyr gan y corff cyllido i’ch hysbysu eich bod wedi cael eich cymeradwyo ar gyfer cyllid, bydd angen i chi drefnu apwyntiad asesu anghenion. Cewch enghraifft o lythyr cymeradwyo yma Example DSA1 Needs Assessment Letter 2012.pdf. I ddod o hyd i ganolfan asesu sydd wedi’i chymeradwyo gan DSA-QAG cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Mae ein gwefan yn rhoi manylion cysylltu a rhagor o wybodaeth am y canolfannau asesu sydd yn agos atoch chi. Bydd hyn yn ddefnyddiol i chi wrth i chi ddewis ble yr hoffech chi fynychu.
Mae angen i chi anfon rhagor o wybodaeth
Bydd eich corff cyllido yn cysylltu â chi i hysbysu bod angen rhagor o wybodaeth neu ragor o dystiolaeth gennych. Nid yw hyn yn golygu nad ydych yn gymwys ar gyfer DSA; gallai olygu rhywbeth syml fel bod rhywbeth ar goll o’ch ffurflen gais. Dilynwch eu cyfarwyddiadau cyn gynted â phosib, oherwydd bydd unrhyw oedi yn golygu bod angen i chi aros am fwy o amser i dderbyn beth sydd gennych hawl iddo.
Nid ydych yn gymwys ar gyfer cyllido
Os ydych yn cael eich hysbysu nad ydych yn gymwys ar gyfer DSA cewch apelio i’ch corff cyllido. Gallai fod yn gymorth i chi hefyd ar yr adeg hon i gysylltu â swyddog anabledd y coleg neu brifysgol ble’r ydych yn astudio oherwydd byddent yn gallu cynnig rhagor o gymorth a gwybodaeth ar beth i wneud nesaf. Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ddod o hyd i’ch swyddog anabledd.