Amserlenni DSA

WelshDiagram1

Amserlenni DSA

Cam 1 – Hyd at 14 wythnos – Cwblhewch ac anfonwch eich cais am Lwfans Addysg Uwch a / neu Lwfans Myfyrwyr Anabl at eich corff cyllido. Byddwch yn derbyn llythyr cymhwyster i’ch hysbysu y dylech drefnu asesiad anghenion. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r broses ymgeisio yn amrywio o un corff cyllido i’r llall – ymgeisiwch yn gynnar os gwelwch yn dda.

Cam 2 – Hyd at 15 diwrnod – I drefnu asesiad anghenion – ffoniwch o gwmpas canolfannau asesu oherwydd gall rai ohonynt gynnig apwyntiadau yn fuan. Unwaith i chi drefnu a darparu’r wybodaeth briodol bydd yr apwyntiad yn digwydd. Nodwch os gwelwch yn dda: gall y broses hon gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith – trefnwch eich hapwyntiad yn gynnar!

Cam 3 – O fewn 10 diwrnod – Dylai’r adroddiad asesu anghenion gael ei anfon atoch chi a’ch corff cyllido o fewn 10 diwrnod o’r asesiad. Nodwch os gwelwch yn dda: Gall y broses hon gymryd hyd at 10 diwrnod.

Cam 4 – O fewn 10 diwrnod – Bydd eich corff cyllido yn anfon llythyr atoch i’ch hysbysu i gysylltu â’r cyflenwr. Unwaith i chi ddarparu’r wybodaeth sydd angen ar y cyflenwr bydd eich hoffer a’ch gwasanaethau yn cael eu cyflenwi. Nodwch os gwelwch yn dda: Gall y broses hon gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith – cysylltwch os gwelwch yn dda â’r cyflenwr a gwnewch y trefniadau yn gynnar!