Y Broses Asesu
- Last Updated on Monday, 11 November 2013 15:42
Mae’r broses yn hawdd ac yn syml sy’n cymryd tua 1.5 – 2 awr i’w chwblhau. Nid yw’n brawf; rydych chi yno i roi cymaint o wybodaeth â phosib i’ch aseswr. Drwy gael cymaint o wybodaeth â phosib, byddent yn gallu gwneud y penderfyniad gorau o ran pa gymorth sy’n briodol i chi:
•Dylech chi gyrraedd 10 - 15 munud cyn eich hasesiad anghenion
•Bydd eich aseswr yn ystyried eich anghenion anabledd a dysgu, gofynion eich cwrs a chanllawiau cyllid y DSA ar gyfer eich adroddiad asesu anghenion DSA
•Byddent bob amser yn trafod argymhellion gyda chi fel bod eich safbwyntiau’n cael eu hystyried a fel eich bod yn deall pa gymorth sy’n cael ei awgrymu a pham
•Yn ystod yr amser rydych yn treulio yn y ganolfan asesu bydd yr aseswr yn cymryd nodiadau i ddrafftio adroddiad asesu anghenion i chi
•Efallai bydd yr aseswr yn arddangos offer a meddalwedd ac efallai yr hoffech chi geisio defnyddio’r offer sy’n cael ei argymell. Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod yr offer priodol gennych wrth astudio
Yn ystod yr asesiad, bydd yr aseswr yn egluro i chi eich bod naill ai’n gallu:
•a) derbyn copi drafft o’ch hadroddiad, ble mae disgwyl i chi ei ddychwelyd i’r Ganolfan Asesu o fewn 5 diwrnod gwaith (ar ôl hyn byddai’n cael ei anfon at y corff cyllido)
•b) derbyn copi o’r adroddiad terfynol ar yr un pryd y caiff ei anfon at y corff cyllido.
Bydd eich hadroddiad terfynol yn cael ei anfon atoch chi o fewn 10 diwrnod ar ôl i chi fynychu eich hasesiad. Os nad ydych yn derbyn eich hadroddiad o fewn 10 diwrnod dylech chi gysylltu â’r ganolfan yn syth. Bydd yr adroddiad terfynol hefyd yn cael ei anfon at eich corff cyllido a byddwch yn clywed yn ôl ganddynt am beth fydd y camau nesaf.
Ar ôl yr Asesiad Anghenion – Eich Hadroddiad
Yn dibynnu ar eich dewis o ‘Optio Mewn’ neu ‘Optio Allan’ bydd hyn yn penderfynu pryd y byddwch yn derbyn eich hadroddiad asesu anghenion. I osgoi oedi proses eich hasesiad, unwaith i chi dderbyn eich hadroddiad asesu anghenion dylech ei adolygu a hysbysu’r ganolfan asesu am unrhyw gamgymeriadau neu newidiadau rydych wedi sylwi arnynt cyn gynted â phosib.
Bydd y corff cyllido yn derbyn copi o’ch hadroddiad i’w adolygu ac yna byddent yn eich cynghori am beth yw’ch hawliau.
Bydd y corff cyllido yn cysylltu â chi’n ysgrifenedig a byddent yn gadael i chi wybod pwy i gysylltu â nhw ar gyfer yr offer a’r gwasanaethau y maent wedi eu hargymell.